Rydym yn cefnogi gweithwyr mewn gweithgynhyrchwyr ym Mhowys gyda chynhyrchiant, sgiliau, hyfforddiant a gwybodaeth am ddatgarboneiddio i wella eu llwyddiant yn y farchnad.
Bydd y rhaglen ADAPTS yn cefnogi gweithgynhyrchwyr ym Mhowys, gan ddarparu mynediad heb ei ail at drosglwyddo gwybodaeth, hyfforddiant, uwchsgilio a thechnoleg gweithgynhyrchu uwch, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn materion digidol a datgarboneiddio.
Bydd y rhaglen yn cefnogi hyd at 16 o fusnesau, o unrhyw sector, i ddatgarboneiddio, cynyddu cynhyrchiant, arloesi ac uwchsgilio eu staff.
Drwy lenwi ein ffurflen gyswllt isod gallwch weld sut gallwn ni helpu eich busnes a’ch gweithwyr i fod yn fwy gwybodus, cynhyrchiol a chynaliadwy.
FAQs
Mae ADAPTS yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir y Fflint drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn rhan o fenter Ffyniant Bro y llywodraeth, a fydd wedi darparu £2.6 biliwn o gyllid erbyn mis Mawrth 2025 i gefnogi buddsoddiad lleol ar draws holl ranbarthau’r DU i fynd i’r afael â gwahaniaethau ac anghenion mewn ardaloedd cyfoethog a difreintiedig.
Mae AMRC Cymru wedi gwneud cais llwyddiannus ar gyfer ADAPTS er mwyn cefnogi gweithgynhyrchwyr lleol gyda gwybodaeth am ddatgarboneiddio, cynhyrchiant, sgiliau a hyfforddiant, sef y prif ffactorau sydd eu hangen ar gyfer sicrhau llwyddiant yn y farchnad.
Bydd yr wythnos gyntaf o ymyrryd yn canolbwyntio ar gofnodi agweddau gweithgynhyrchu hanfodol fel:
- Statws technoleg
- Cyfleoedd ar gyfer datgarboneiddio
- Asesiadau cynhyrchiant
- Asesiadau amgylcheddol
- Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant drwy Gyfrif Dysgu Personol Cymru.
Os byddwch yn llwyddiannus, bydd y cymorth llawn yn cynnwys:
- Cymorth wedi’i deilwra gan dîm peirianneg AMRC Cymru am dri mis ar gyfartaledd, i ganolbwyntio ar fabwysiadu technolegau uwch
- Mynediad at hyfforddiant pwrpasol ar sgiliau technoleg drwy Goleg Cambria i dri aelod o’ch staff
- Hyfforddiant sylfaenol ar gynaliadwyedd i fusnesau gan Small World Consulting.
Cysylltwch â ni heddiw - a bydd peiriannydd yn cysylltu â chi i drefnu eich asesiad wythnos un.
Yn ystod wythnos un, mae angen i chi wneud y canlynol:
- Rhoi rywfaint o’ch amser i ni er mwyn i ni allu dysgu am eich busnes, drwy fynd â ni ar daith o amgylch eich safle, a rhoi amser i ni gofnodi gweithgarwch eich busnes
- Darparu gwybodaeth allweddol am eich busnes i'w mewnbynnu i adnodd asesu carbon Small World Consulting.
Os bydd eich cwmni’n datblygu i fod yn brosiect cymorth llwyddiannus a chynhwysfawr, byddwch yn gwneud y canlynol:
- Rhoi adborth ar gyfeiriad datblygu’r prosiect
- Rhoi amser i’ch staff gael gafael ar hyfforddiant drwy Small World Consulting a Choleg Cambria.